Rydych chi yma: Hafan > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru > Croeso i Sioe Frenhinol Cymru

Croeso i Sioe Frenhinol Cymru

Sioe Frenhinol Cymru yn denu 236,284 o ymwelwyr


Bu i’r 236,284 o bobl a’i mynychodd, a oedd yn agos at y nifer uchaf erioed, gadarnhau unwaith eto oruchafiaeth Sioe Frenhinol Cymru fel yr atyniad mwyaf o’i fath ym Mhrydain.  Fe wnaeth llwyddiant y sioe pedwar diwrnod ddangos ei gwydnwch hefyd wrth iddi gael ei sbonc yn ôl yn dilyn canlyniadau digalon sioe 2007, a gynhaliwyd yn y tywydd gwaethaf am yn agos i 50 mlynedd ac a oedd yn ei cholled am y tro cyntaf er 1974.

Mewn cyferbyniad â blwyddyn yn ôl mwynhaodd ymwelwyr llawen bedwar diwrnod o haul cynnes ac er gwaethaf problemau clefyd y tafod glas, a gyfyngodd ar nifer yr anifeiliaid, fe wnaeth y sioe gyfiawnhau’i henw fel y ffenestr siop i amaethyddiaeth Cymru drwy lwyfannu arddangosfa ysblennydd o dda byw o’r ansawdd gorau yn y cylchoedd beirniadu.

“Roedd y sioe’n wych,” medd cadeirydd bwrdd rheoli Sioe Frenhinol Cymru, David Lewis.  “O edrych yn ôl gallech ddweud bod sioe'r llynedd wedi bod yn gam at lwyddiant eleni.”

Tigers

Mae tîm cwymp rhydd y ‘Tigers’ yn dod i’r Sioe Frenhinol eleni

Llifodd y tyrfaoedd yn Llanelwedd drwy’r giatiau o’r cychwyn a phan agosaodd nifer y mynychwyr ar y trydydd diwrnod at 70,000 roedd hi’n amlwg y byddai her i’r nifer uchaf erioed, sef y 240,140 a gafwyd yn 2006.

Roedd yr ymwelwyr mewn hwyliau gwario hefyd.  Dywedodd masnachwyr fod busnes yn fywiog ac roedd banciau ar faes y sioe yn brysur hefyd.  Soniodd un bod £250,000 wedi’i wagio o’i beiriant arian a swm tebyg wedi’i dalu i mewn dros y cownter gan arddangoswyr stondinau masnach.

Ymhlith yr ymwelwyr oedd 612 o dramor a gofrestrodd ym Mhafiliwn Rhyngwladol y sioe. Daethant o 40 o wledydd, yn cael eu harwain gan 96 o’r Iseldiroedd, 78 o Seland Newydd a 60 o Awstralia.


Diolch

Byddem yn hoffi diolch yn arbennig i’r holl ymwelwyr, arddangoswyr, stiwardiaid, beirniaid a noddwyr a helpodd i wneud y sioe hon yn llwyddiant.

Mae’r gymdeithas yn dra diolchgar hefyd i drigolion Llanfair ym Muallt a’r cyffiniau am fod mor amyneddgar a goddefgar.


Nawdd a Lletygarwch

Os hoffech chi gael gwybod sut y gall nawdd hyrwyddo eich busnes chi, ymwelwch â’n hadran nawdd. Gallwn lunio pecyn pwrpasol i gyd-fynd â’ch gofynion busnes, felly teimlwch yn rhydd i gysylltu â ni ar unwaith i drafod eich opsiynau ar gyfer anghenion 2008, gallwn gael sgwrs â chi yn awr ynghylch eich anghenion yn 2008.

top printiwch
fôn: 01982 553683 e-bost: requests@rwas.co.uk
Maint y testun