Gwybodaeth
Buddsoddwch yn y Sioe Frenhinol, ac mi fyddwch ar eich ennill!
Mae ein tîm nawdd yn brofiadol wrth ddarparu pecynnau hyblyg, fforddiadwy ac effeithiol sy’n addas i anghenion unigol ein holl bartneriaid gwerthfawr. Ceir cyfleoedd ar amryw o lefelau, ac mae ein tri digwyddiad mawr yn ategu eu gilydd yn effeithiol.
Mae tymor y Sioe Frenhinol yn dechrau gyda Gŵyl Tyddynwyr a Gerddi yn y gwanwyn, a denodd y digwyddiad 2-ddiwrnod yma, sy’n ehangu bob blwyddyn, dros 20,000 o ymwelwyr y llynedd. Rydym o’r farn y bydd y ffigur presenoldeb hwn yn parhau i gynyddu wrth i’r diddordeb yn yr Ŵyl dyfu’n gyflym.
Fel Noddwr, mi fydd eich cwmni/busnes yn cael ei weld yn amlwg gan lawer o bobl.
Sioe Frenhinol Cymru yw ein prif ddigwyddiad 4 diwrnod ym mis Gorffennaf, ac mae wedi denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ers 1989. Gellir dadlau mai dyma’r digwyddiad gorau o’i fath yn Ewrop, ac mae’n cynnig posibiliadau a chyfleoedd diddiwedd i noddwyr.
Daw blwyddyn y Sioe Frenhinol i ben gyda’r Ffair Aeaf boblogaidd. Denodd y digwyddiad blynyddol hwn bron 25,000 o ymwelwyr y llynedd, ac mae ei lwyddiant yn gorfodi’r trefnwyr i ystyried ei ymestyn ymhellach i fodloni anghenion cystadleuwyr, arddangoswyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Gallwn eich helpu i drefnu pecyn nawdd i ateb eich gofynion chi fel cwmni.
Heb gael eich darbwyllo? - Beth am gymryd golwg ar ein hastudiaethau achos noddi drwy glicio yma
Fel noddwr ar gyfer un ...dau ...neu’r tri digwyddiad gallwch ddisgwyl:
- Amlygrwydd uchel iawn ar faes y sioe
- Cysylltiad gyda hyd at 250,000 o ymwelwyr
- Cysylltiad i gynulleidfa deledu eang yn y tri digwyddiad
- Cyfleon hyrwyddo fel noddwr mewn cyhoeddusrwydd cyn ac ar ôl y digwyddiad
I ddarganfod sut y gall cyfleoedd noddi’r Sioe Frenhinol weithio i chi, cysylltwch ag Audrey Lewis a’r Tîm Nawdd ar Faes y Sioe.
Ffôn: 01982 554410
e-bostl: sponsorship@rwas.co.uk