Croeso
Dechreuwch eich "Blwyddyn Sioe Frenhinol" 2009 gydag ymweliad â'r digwyddiad cyffrous yma
Fe wnaeth cyfanswm o 23,318 o ymwelwyr fynychu Gŵyl Tyddyn a Gardd Frenhinol Cymru 2008 ar yr 17eg a’r 18fed Mai, gan gadarnhau unwaith eto boblogrwydd yr achlysur fel atyniad o bwys yng Nghymru.
Os fethoch chi'r Ŵyl, beth am gael golwg ar Oriel Ffotograffau'r Ŵyl
Hon oedd yr wythfed Ŵyl i’w chynnal gan CFAC ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yng nghanol prydferthwch Canolbarth Cymru. “Rydym wedi cael llawer o sylwadau cadarnhaol gan ymwelwyr a ganmolodd drefniadaeth yr Ŵyl ac amrywiaeth yr atyniadau ar ddangos,” medd Ysgrifennydd Cwmni CAFC, Barrie Jones. “Fe aeth yr Ŵyl yn esmwyth, fe’i mwynhawyd gan bawb ac roedd yn llwyddiannus iawn eto.”
![]() | |
Prynwch Docynnau Gwyl Tddyn a Gardd Ar-lein
Manteisiwch ar y bargeinion sydd ar gael trwy archebu tocynnau Gwyl Tyddyn a Gardd ar-lein ac mi fyddwch yn osgoi colli amser wrth y mynedfeydd prysur!
Prynwch eich tocynnau ar-lein neu trwy ffôn ar 0844 545 0517
Mae’r Ŵyl yn mwynhau’r enw o fod ag awyrgylch hamddenol a chlyd, gan greu rhywbeth gwahanol iawn ei gysyniad i Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf.
Pa un a oeddech wedi gallu bod yn bresennol, neu’n anffodus wedi colli’r penwythnos ardderchog yma, a oedd â rhywbeth i bawb, sylwch os gwelwch yn dda y bydd Gŵyl y flwyddyn nesaf yn cael ei chynnal ar 16 ac 17 Mai, 2009.
Paham na phorwch chi drwy’r bar gwe-lywio ar y chwith am fwy o wybodaeth a chadwch lygad am fwy o fanylion ar y wefan hon.
Ag eithrio cŵn tywys, anogir ymwelwyr i beidio dod â’u cŵn i’r Gŵyl Tyddyn a Gardd, ond os ydyw'n angenrheidiol i wneud, rhaid cawd cŵn ar dennyn bob amser ac ni chânt ddod i mewn i'r adeiladau. Peidiwch â gadel cŵn mewn ceir.
Gwygodaeth Nawdd
Mae amrywiaeth o becynnau noddi ar gael sy’n cynnig elw rhagorol ar eich buddsoddiad ac sy’n addas ar gyfer noddwyr mawr a bach fel ei gilydd.

